Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Ionawr 2025
Amser:
09.00 -
12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15056
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Sam Rowlands AS |
|
Tystion: |
Richard Hughes, Cadeirydd Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Tom Josephs, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Yr Athro David Miles, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Guto Ifan, Darlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru) Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru) David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid Victoria Vasey, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru / Grŵp Cyllideb Menywod Cymru Simon Hatch, Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) |
|
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Sian Giddins (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Peter Davies (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: Richard Hughes, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; Tom Josephs, aelod o’r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; a’r Athro David Miles, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru); a Guto Ifan, Darlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru).
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: Victoria Vasey, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru / Grŵp Cyllideb Menywod Cymru; Simon Hatch, Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru; a Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.